Âé¶¹ÊÓÆµ

Partneriaeth Bwyd Âé¶¹ÊÓÆµ yn hyrwyddo cynaliadwyedd bwyd i fynychwyr gŵyl

Rhoddwyd dros 150 o focsys ffrwythau ffres am ddim i deuluoedd yng Ngŵyl Fwyd Glynebwy fel rhan o ymdrech i hyrwyddo cynaliadwyedd bwyd a mynediad at fwyd iach a fforddiadwy yn lleol.

Rhoddwyd pecynnau hadau llysiau gardd am ddim hefyd, ynghyd â llyfrynnau ryseitiau 'Blas ar Natur', gan helpu i ysbrydoli pobl i dyfu eu cynnyrch eu hunain a magu hyder wrth baratoi prydau maethlon, cost isel gartref.

Mae hyn yn rhan o ymgyrch gan Bartneriaeth Bwyd Âé¶¹ÊÓÆµ a Thîm Cymunedau Bwyd Gwydn Cyngor Âé¶¹ÊÓÆµ i hyrwyddo cydbwysedd a dewisiadau iachach, yn ogystal â gwneud i bobl feddwl mwy am wydnwch bwyd ac o le mae eu bwyd yn dod mewn gwirionedd.

Cefnogwyd hyn gan y busnes lleol, Fresh n Fruity, a gyflenwodd y cynnyrch.

Siarad â thrigolion lleol oedd nod y diwrnod, a gofynnwyd i ymwelwyr â'r stondin rannu eu barn a phleidleisio ar bedair thema polisi bwyd allweddol:

  • cynyddu cyfleoedd ar gyfer tyfu bwyd
  • gwahardd cludfwyd ger ysgolion
  • cyflwyno prydau ysgol uwchradd am ddim
  • ehangu cynlluniau talebau ffrwythau a llysiau

Dywedodd y Cynghorydd Jules Gardner, Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yng Nghyngor Âé¶¹ÊÓÆµ:

"Mae'n wych gweld ein hetholwyr yn ymgysylltu â phwnc cynaliadwyedd bwyd a gwytnwch bwyd. Mae'n galonogol iawn gweld cefnogaeth gref i fesurau newydd sy'n anelu at wella mynediad at fwyd fforddiadwy, iach, tra'n rhoi cefnogaeth i deuluoedd, a chreu mwy o gyfleoedd i bobl dyfu a pharatoi cynnyrch ffres eu hunain.

"Fel cyngor Marmot a thrwy ein Bargen Âé¶¹ÊÓÆµ, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau i sicrhau y gallwn leihau anghydraddoldebau iechyd a hyrwyddo dewisiadau bwyd cadarnhaol a fydd yn gwella ein cymunedau yn y tymor hir. Mae Cyngor Âé¶¹ÊÓÆµ a Phartneriaeth Bwyd Âé¶¹ÊÓÆµ yn credu y gall bwyd maethlon o ansawdd uchel fod yn sail i ddeiet cryf, iach a bod maeth priodol yn creu blociau adeiladu sylfaenol iechyd da."

Er mwyn tynnu sylw at goginio cartref hawdd ac iach, cafwyd sawl arddangosfa goginio trwy gydol y dydd. Roedd hyn yn cynnwys arddangosfa bara soda gan Sirhowy Valley Woodlands ac Ysgol Gynradd Willowtown, a hyrwyddodd eu llyfr coginio cymunedol trwy arddangosfa fyw ar goginio tacos llysiau.

Dywedodd Chris Nottingham, Cydlynydd Partneriaeth Bwyd BG, Tai Cymunedol Tai Calon:

"Roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o Å´yl Fwyd Glynebwy, a roddodd gyfle i ni arddangos mentrau bwyd cymunedol lleol sy'n digwydd ar draws y fwrdeistref. Roedd hi'n foment falch i Bartneriaeth Bwyd Âé¶¹ÊÓÆµ ddathlu bwyd lleol da, ac roeddem wrth ein boddau i gwrdd â chymaint o bobl sydd â diddordeb mewn sut mae camau gweithredu bwyd cymunedol yn helpu i lywio ein system fwyd leol. Yr uchafbwynt i mi oedd llawenydd disgyblion Ysgol Gynradd Willowtown yn coginio eu tacos yn y gegin arddangos."

Nodyn:

Cynhelir Partneriaeth Bwyd Âé¶¹ÊÓÆµ gan Tai Cymunedol Tai Calon gyda phartneriaid ychwanegol yn cynnwys Cyngor Âé¶¹ÊÓÆµ, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Aneurin Leisure Trust a Chyfoeth Naturiol Cymru.