麻豆视频

Gwent Actif yn Paratoi ar gyfer Cam Nesaf yr Effaith Ranbarthol

Gwent Actif yn cryfhau'r t卯m arweinyddiaeth i yrru cymunedau iachach a mwy egn茂ol ar draws y rhanbarth

鈥淢ae gennym gyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i drawsnewid iechyd, lles a chyfleoedd drwy weithgarwch corfforol, gyda'n cymunedau a'n partneriaid鈥� meddai Alex Hicks, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Gwent Actif sydd newydd ei benodi.

Mae Gwent Actif wedi cyhoeddi penodiad Alex Hicks fel ei Gyfarwyddwr Rhanbarthol cyntaf, ochr yn ochr 芒 phenodi dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd i'r Bwrdd Partneriaeth, wrth i'r sefydliad barhau i adeiladu momentwm ar draws y rhanbarth. Mae'r penodiadau'n cwblhau strwythur arweinyddiaeth y Bwrdd partneriaeth chwaraeon rhanbarthol, sy'n gweithio i greu Gwent fwy egn茂ol, iachach a mwy cysylltiedig.

Mae Alex yn dod 芒 phrofiad helaeth mewn arweinyddiaeth strategol, datblygu partneriaethau ar draws Llywodraeth Leol a Chenedlaethol, yn ogystal ag iechyd. Fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol, bydd yn arwain y cyflawniad o gweledigaeth Gwent Actif i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol, gan sicrhau bod pawb ledled Gwent yn cael y cyfle i fwynhau'r manteision o fod yn actif drwy gydol eu bywydau, drwy greu partneriaethau a chydweithrediadau arloesol ar draws y rhanbarth.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Alex:

鈥淢ae Gwent Actif wedi cael ei sefydlu ar adeg ganolog i'n rhanbarth. Gwyddom fod gan symud a gweithgarwch corfforol y p诺er i wella iechyd a lles, cryfhau cymunedau a chefnogi ffyniant economaidd, ond eto mae gormod o bobl yn parhau i wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan.

鈥淢ae ein huchelgais yn syml ac yn uchelgeisiol. Rydym am greu Gwent lle mae pawb yn cael y cyfle i fwynhau perthynas gydol oes gyda bod yn weithgar yn eu cymuned, waeth beth fo'u hoedran, cefndir neu amgylchiadau.

鈥淒rwy ddod 芒 phartneriaid o bob rhan o lywodraeth leol, iechyd, addysg, y sector gwirfoddol, partneriaid yn y sector preifat a chwaraeon ynghyd, gallwn gymryd ymagwedd wirioneddol gydweithredol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a chreu cyfleoedd i bobl symud yn amlach.

鈥淣id yw hyn yn ymwneud 芒 chwaraeon yn unig. Mae'n ymwneud 芒 gwella bywydau, cefnogi cymunedau a helpu i leihau'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus drwy atal ac ymyrryd yn gynnar.鈥�

Daw'r penodiadau wrth i Gwent Actif barhau i sefydlu ei hun fel y bartneriaeth ranbarthol ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar draws Casnewydd, Sir Fynwy, Caerffili, 麻豆视频 a Thorfaen.

Croesawodd y Cadeirydd Kevin Bounds benodiad y Cyfarwyddwr Rhanbarthol newydd, gan ddweud: -

鈥淢ae penodiad Alex yn garreg filltir bwysig yn natblygiad Gwent Actif. Bydd ei brofiad, ei arweinyddiaeth strategol a'i ddealltwriaeth o weithio mewn partneriaeth yn amhrisiadwy wrth i ni symud o sefydlu i gyflawni.鈥�

Mae Gwent Actif hefyd wedi cadarnhau penodiad Nicola Windsor a Hefin Archer-Williams yn Gyfarwyddwyr Anweithredol.

Mae Nicola Windsor yn dod 芒 phrofiad sylweddol mewn adfywio, darparu seilwaith a rhaglenni twf rhanbarthol, ar 么l gweithio ar draws prosiectau a phartneriaethau mawr sy'n cefnogi datblygiad economaidd a chreu lleoedd. Bydd ei harbenigedd yn cefnogi uchelgais Gwent Actif i ymgorffori gweithgarwch corfforol o fewn cynlluniau ehangach ar gyfer cymunedau cynaliadwy a thwf cynhwysol.

Mae Hefin Archer-Williams yn ymuno 芒'r Bwrdd gyda phrofiad helaeth yn y gyfraith, llywodraethu ac ymgyfreitha. Bydd ei arbenigedd proffesiynol yn cryfhau dull y sefydliad o lywodraethu, atebolrwydd a gwneud penderfyniadau strategol wrth iddo ddatblygu a thyfu.

Dywedodd y Cadeirydd Kevin Bounds 鈥淩wyf hefyd yn falch iawn o groesawu Nicola Windsor a Hefin Archer-Williams i'n Bwrdd. Rhyngddynt maent yn dod 芒 chyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ar draws adfywio, seilwaith, twf rhanbarthol, llywodraethu ac ymarfer cyfreithiol. Bydd eu mewnwelediad yn helpu i sicrhau bod ein partneriaeth mewn sefyllfa dda i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gymunedau ar draws y rhanbarth. Ynghyd 芒'n cyfarwyddwyr presennol mae gennym bellach fwrdd llawn 芒 chymwysterau da i ddatblygu ein huchelgais i wella bywydau holl drigolion Gwent drwy chwaraeon a gweithgareddau cymunedol.鈥�

Mae'r tri phenodiad yn cryfhau ymhellach allu Gwent Actif i gyflawni ei genhadaeth o ddefnyddio gweithgarwch corfforol i wella iechyd a lles ar draws y rhanbarth.

Sefydlwyd Gwent Actif fel rhan o rwydwaith cenedlaethol Chwaraeon Cymru o bum partneriaeth chwaraeon rhanbarthol, a gynlluniwyd i drawsnewid y ffordd y mae cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn cael eu cynllunio a'u darparu ledled Cymru. Mae'r bartneriaeth yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau parhaus mewn cyfranogiad, gan weithio gyda chymunedau a phartneriaid i sicrhau bod y rhai sydd 芒'r cyfle lleiaf i fod yn weithredol wrth wraidd buddsoddi a penderfyniadau yn y dyfodol.

Wrth iddo ddechrau ar ei gam datblygu nesaf, bydd Gwent Actif yn gweithio gyda sefydliadau ar draws y rhanbarth i nodi cyfleoedd lle gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol gael yr effaith fwyaf, gan helpu i greu pobl iachach, cymunedau cryfach a Gwent fwy ffyniannus.