
Mae gwasanaeth ar-lein newydd am ddim, , wedi'i lansio ar draws Âé¶¹ÊÓÆµ a Thorfaen i helpu teuluoedd i arbed arian ar gost dillad ysgol a hanfodion eraill, lleihau gwastraff, a diogelu'r amgylchedd.
Mae'r siop gyfnewid ddigidol yn caniatáu i deuluoedd restru dillad ysgol o ansawdd da sydd wedi mynd yn rhy fach o fewn eu cymuned ysgol a gofyn am eitemau sydd eu hangen arnynt am ddim. Mae'r platfform wedi'i adeiladu o amgylch cymunedau ysgolion ac mae bellach yn cynnwys pob ysgol ar draws y ddwy fwrdeistref.
Wrth siarad am y fenter nid-er-elw, dywedodd y sylfaenydd Jon Evans, a fagwyd ym Mlaenafon ac a addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban ym Mhont-y-pŵl:
"Mae yn helpu ein cymunedau i gefnogi ei gilydd yn uniongyrchol. Mae ailddosbarthu dillad ysgol o ansawdd da yn weithred ymarferol syml sydd â gwir effaith, gan helpu teuluoedd i arbed arian ac achub y blaned."
Dechreuodd Jon FreeSchoolClothes gydag un bocs o ddillad y tu allan i gartref ei deulu yng Nghaerdydd. Heddiw maent yn fenter gymunedol a redir gan wirfoddolwyr sy'n helpu i ailddosbarthu dillad ysgol sydd wedi mynd yn rhy fach a hanfodion eraill am ddim ar draws y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Âé¶¹ÊÓÆµ:
"Mae'r platfform rhad ac am ddim hwn yn cefnogi Y Fargen ym Mlaenau Gwent, sy'n canolbwyntio ar weithredu cymunedol a chydweithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Rydym yn annog ein holl ysgolion i ddefnyddio'r wefan ac i rannu gwybodaeth gyda rhieni i helpu teuluoedd lleol i arbed arian. Mae plant ysgol yn tyfu'n gyflym ac mae arian yn brin ym mhobman, felly bydd pob eitem a gyfnewidir yn helpu teuluoedd yn ein cymunedau i arbed arian, lleihau gwastraff a diogelu’r blaned."
Cofrestrwch a chyfnewidiwch heddiw yn Neu cysylltwch â: support@freeschoolclothes.com