Cartrefi nad ydynt yn talu y Dreth Gyngor:
- Cartrefi gwag sydd:
- Heb ddodrefn (hyd at 6 mis)
- Yn eiddo i elusen (hyd at 6 mis)
- Angen gwaith trwsio mawr neu newidiadau strwythurol (hyd at 12 mis)
- Yn perthyn i rywun yn y carchar
- Yn perthyn i rywun sydd wedi symud i gael gofal mewn ysbyty neu gartref gofal
- Yn perthyn i rywun sydd wedi symud i roi gofal i berson arall
- Yn perthyn i rywun sydd wedi symud i dderbyn gofal gan berson arall
- Wedi'i adael heb ei feddiannu gan fyfyrwyr
- Yn aros am brofiant neu lythyrau gweinyddu
- Yn aros am brofiant neu lythyrau gweinyddu. Mae hyn yn berthnasol am hyd at 2 flynedd ar ôl y farwolaeth, neu 12 mis ar ôl profiant, pa un bynnag sy'n dod gyntaf.
- Wedi cael eu hadfeddiannu
- Yn cael eu rheoli gan ymddiriedolwr person sy’n fethdalwr
- Yn aros i weinidog yr efengyl symud i mewn. Mae hyn yn berthnasol am hyd at 1 flwyddyn o'r dyddiad y daeth yr eiddo yn wag.
- Yn cael eu defnyddio fel lloches sy'n darparu llety brys neu dros dro i oroeswyr camdriniaeth. Mae hyn ond yn berthnasol os yw'r lloches yn cael ei ddarparu gan, neu ei gomisiynu gan, awdurdod lleol yng Nghymru.
Pwysig: O 1 Ebrill 2026
Os oedd eich eiddo yn wag cyn i chi fod yn berchen arno, efallai y byddwch yn gallu hawlio eithriad.
Mae hyn yn cynnwys:
- cartref gwag sydd heb ddodrefn
- cartref gwag sydd angen atgyweiriadau mawr neu newidiadau strwythurol
Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi'ch hawliad
Bydd arnoch angen:
- prawf eich bod wedi cymryd perchnogaeth o'r eiddo yn gyfreithlon neu,
- prawf bod yr eiddo wedi'i gofrestru gyda Chofrestrfa Tir Ei Mawrhydi
Enghraifft:
- Os yw cartref wedi bod yn wag am fwy na 6 mis cyn i chi ddod yn gyfrifol amdano, nid yw'r cyfnod 6 mis yn dechrau eto.
- Os yw rhywun arall eisoes wedi hawlio 2 fis o'r eithriad 6 mis, dim ond y 4 mis sy'n weddill y byddwch chi'n eu cael.