Âé¶¹ÊÓÆµ

Trawsnewid gofal ar gyfer plant lleol gyda phum mlynedd o arloesedd

Pan fydd plentyn yn mynd i ofal maeth, efallai y bydd yn teimlo'n ofnus ac yn bryderus. Dydyn nhw ddim gwybod i ble maen nhw'n mynd, na gyda phwy maen nhw'n mynd i fod yn byw.

Er na ellir cael gwared o’r pryderon a’r ofnau hynny’n llwyr, dros y pum mlynedd diwethaf mae Maethu Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau i sicrhau bod plant yn teimlo’n ddiogel, yn dawel eu meddwl, a’u bod yn cael eu croesawu gan eu gofalwyr maeth.

Lansiwyd porth ar-lein The Big Welcome yn 2025 er mwyn i deuluoedd maeth gyflwyno eu hunain yn rhithiol i blentyn newydd cyn iddyn nhw ymuno â’u cartref.

Trwy broffil gwe rhyngweithiol, gallant rannu gwybodaeth – a lluniau – o aelodau’r teulu, anifeiliaid anwes, y cartref ei hun, a hyd yn oed yr ardal leol gyda phlant fydd dan eu gofal.

Gyda chymorth porth The Big Welcome, gall plant a phobl ifanc edrych drwy broffil gofalwr maeth cyn iddyn nhw gwrdd. Mae'r teclyn syml ond pwerus yma’n troi ansicrwydd yn gyffro.

Nawr,  mae gan 762 o ofalwyr maeth yng Nghymru borth ar-lein The Big Welcome.

Sefydlwyd Maethu Cymru yn 2021 fel cydweithrediad dielw rhwng gwasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled Cymru. Ar 15ed Gorffennaf, mae'r rhwydwaith o awdurdodau lleol yn dathlu ei ben-blwydd yn bump oed.

Sefydlwyd Maethu Cymru i wella’r broses o recriwtio a chadw gofalwyr maeth yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau bod cymaint o blant â phosibl yn gallu aros yn eu cymunedau lleol pan mae’n iawn ar eu cyfer nhw.

Yn y pum mlynedd diwethaf, mae 84% o blant sy’n cael eu maethu drwy wasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru wedi aros yn lleol, o gymharu â dim ond 32% mewn asiantaethau maethu annibynnol.

Ers ei sefydlu, mae 704 o ofalwyr maeth newydd wedi cael eu recriwtio gan Maethu Cymru ac yn cael eu cefnogi gan ddigwyddiadau cymunedol personol rheolaidd, sesiynau hyfforddi a chymorth gan gyfoedion.

Diolch i gefnogaeth, hyfforddiant a phrofiad, mae bron pob un o ofalwyr maeth Maethu Cymru (93%) a holwyd yn dweud eu bod yn teimlo’n hyderus wrth ddelio ag ymddygiadau plant sy’n gysylltiedig â thrawma, ac o’r rhain mae 56% yn teimlo’n hynod hyderus.*

Dywedodd Michelle Griffiths, Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Plant ym Mhyllau Gwent : 

“Rydyn ni mor falch o’r gwaith y mae Maethu Cymru Âé¶¹ÊÓÆµ wedi’i gyflawni ar gyfer plant yn y bum mlynedd ddiwethaf, ac wedi gweld yn uniongyrchol y budd o borth ar-lein The Big Welcome i blant sy’n ymuno â theulu maeth newydd. Gall rhywbeth mor fach olygu cymaint. Yn Maethu Cymru Âé¶¹ÊÓÆµ rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gofalwyr maeth ar bob rhan o’r siwrnai faethu, ac rydyn ni’n edrych mlaen i adeiladu ar lwyddiannau’r bum mlynedd ddiwethaf.â€

I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i maethucymru.llyw.cymru