Âé¶¹ÊÓÆµ

Cynnig i leihau'r capasiti yng Ngham Gynradd Cymuned Dysgu Abertyleri

Trosolwg

Fe sefydlodd Cyfarwyddiaeth Addysg Âé¶¹ÊÓÆµ Gymuned Ddysgu Abertyleri ym mis Medi 2016. Mae’r gymuned ddysgu’n cynnwys tri champws cynradd sydd wedi’u lleoli ar Heol Roseheyworth, Heol y Chwe Chloch a Stryd Tyleri ynghyd ag un campws uwchradd ar Stryd Alma; sydd, gyda’i gilydd, yn ysgol pob oed. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Âé¶¹ÊÓÆµ yn adolygu capasiti ei ysgolion yn flynyddol. Gan hynny, mae’r Cyngor yn ymateb i’r lefel uchel o leoedd gwag yng nghampysau Cynradd Cymuned Ddysgu Abertyleri. 

Y Cynnig

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig lleihau’r capasiti lleoedd cynradd ar y cyfan yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri o 980 i 770 – gostyngiad o 210 o leoedd (21%) – trwy gau un campws cynradd. Yr opsiwn a ffefrir yw cau Campws Heol Roseheyworth, sydd â’r nifer isaf o ddisgyblion o oedran statudol ar y gofrestr (119) a’r lefelau uchaf o waith cynnal a chadw sydd wedi ôl-gronni oherwydd oedran a chyflwr yr adeilad. Gellir rhoi lle i’r holl ddisgyblion sy’n mynychu Campws Heol Roseheyworth ar hyn o bryd ar safleoedd y campysau cynradd a fydd yn weddill.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Âé¶¹ÊÓÆµ yn cefnogi uwch dîm arwain Cymuned Ddysgu Abertyleri i sicrhau parhad cyfleoedd dysgu cynradd o ansawdd da ar draws yr ysgol. Mae’r Cyngor yn dal i fod yn ymrwymedig i gydweithio gyda’r ysgol i ddatblygu cynllun hirdymor sy’n cefnogi twf, datblygiad a deilliannau gwell ar sail barhaus.

Felly, bydd y cynnig hwn yn cael ei gyflawni fel a ganlyn:

I lleihau capasiti'r ysgol gynradd, sy'n rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri, o 980 i 770, i leihau capasiti corfforol Cymuned Ddysgu Abertyleri drwy gau Campws Heol Roseheyworth a symud disgyblion i'r campysau sy'n weddill (Campws Six Bells a Champws Stryd Tyleri) gyda gweithredu'n raddol yn dechrau o fis Medi 2026 a chyda gweithredu'n llawn erbyn mis Medi 2027.

Byddai’r cynnig yn ategu Gweledigaeth Âé¶¹ÊÓÆµ ar gyfer Addysg fel a ganlyn:

‘Grymuso ein cymunedau i fod yn ddysgwyr gydol oes uchelgeisiol, egwyddorol a gwybodus sy’n byw bywydau llawn ac iach.’

Mae'r Ymgynghoriad Swyddogol bellach wedi dod i ben ar Dydd Mawrth 14 Ebrill 2026, serch hynny, bydd copi yn parhau i fod ar gael ar y wefan am wybodaeth.

  • Felly, y camau nesaf ar gyfer tîm Adnoddau a Chynllunio fydd cyflwyno'r adroddiad Gorffenedig. Gwneir y penderfyniad gan Gabinet y Cyngor mewn cyfarfod ar Dydd Llun 30ain Ebrill 2026 i symud ymlaen i Hysbysiad Statudol. Gan nodi'r rhwymedigaeth gyfreithiol yn unol â Chodau Trefniadaeth Ysgolion (V2 2018) i'w gyhoeddi ar ein gwefan 2 wythnos yn flaenorol (21 Ebrill 2026).

Gweler y dolenni a ddarparwyd ar gyfer yr Adroddiad Gorffenedig a'r Hysbysiad Statudol wedi'i baratoi. Os bydd y cynnig yn mynd ymlaen, Bydd y cyfnod y bydd yr Hysbysiad Statudol yn rhedeg ohoni yn o Dydd Mawrth 5ed Mai – Dydd Mercher 3ydd Mehefin 2026.

Gall consylteion gyflwyno eu gwrthwynebiadau ar y cynnig; yn ystod y cyfnod hwn ni fydd unrhyw ohebiaeth y tu allan i'r dyddiad hwn yn cael ei chyfrif fel gwrthwynebiadau i'r cynnig.

Unwaith y daw cyfnod y Hysbysiad Statudol i ben bydd adroddiad Gwrthwynebiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor i’w benderfynu yn Cychwyn 8fed Mehefin 2026 i’w weithredu’n llawn o fis Medi 2027.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ar yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda naill ai drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk, neu drwy ein ffonio ar (01495) 355116.

Dogfennau cysylltiedig