Diogelwch yn y Digwyddiadau
Mae’r bygythiad gan derfysgaeth yn real, ac yn anffodus, mae’n anodd rhagweld beth sydd yn medru digwydd o fewn mannau cyhoeddus a phrysur sydd yn medru bod yn darged i derfysgwyr. Hoffem i chi ystyried yr hyn y gallwch ‘chi’ ei wneud er mwyn lleihau’r risg a lliniaru effaith y fath ymosodiad. Rydym yn argymell felly eich bod yn cwblhau’r ar wrth-derfysgaeth.
Os ydych chi’n bwriadu rhedeg digwyddiad bach neu gymunedol, mae rhai cyfrifoldebau sydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Bydd angen i chi feddwl am bwy fydd yn mynychu, pa gyfleusterau bydd eu hangen arnynt, pa fath o weithgareddau fydd yn digwydd ac unrhyw ofynion diogelwch.
Pwy sy’n gallu darparu cyngor?
Mae ESAG Âé¶¹ÊÓÆµ (Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau) yn gallu helpu pobl gynllunio a threfnu digwyddiadau llwyddiannus, diogel i bobl o fewn Âé¶¹ÊÓÆµ.
Mae’r Cyngor yn gweithio gyda’r Heddlu, Tân ac Achub, Ambiwlans ac eraill i gynnig cyngor a darparu cyfarwyddyd i unrhyw un sy’n cynllunio digwyddiad.
Rydym yn cynnig cyfarwyddyd ar arfer gorau er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn bodloni’r holl ofynion deddfwriaethol, cyfreithiol a gweithredol.
Gall y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau gynnig cyfarwyddyd ar:
- Sut i gychwyn arni
- Beth sydd angen i chi ei wneud
- Â phwy i gysylltu am gyfarwyddyd arbenigol
Y brif wybodaeth rydym ei angen gennych yw:
- Pa fath o ddigwyddiad ydych chi’n ei gynllunio
- Ble fydd yn digwydd
- Pryd a ble fydd yn digwydd, dyddiad ac amser
- Pwy fydd yn mynychu
- Faint fydd yn mynychu
- Pa gyfleusterau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys toiledau, cymorth cyntaf, dŵr yfed a lluniaeth.
- A yw’r digwyddiad ar gyfer grŵp penodol, megis plant, pobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn neu bobl anabl?
- Oes angen unrhyw gyfleusterau penodol arnoch ar gyfer y grwpiau hyn?
- Beth sydd angen i chi wneud i reoli torfeydd yn ddiogel?
- A yw’r safle sydd gennych mewn golwg yn addas ar gyfer y nifer rydych yn disgwyl bydd yn mynychu
- Efallai byddwn yn gofyn am wybodaeth arall, yn dibynnu ar fath y digwyddiad rydych yn cynllunio.
Y cynharaf y gallwch ddarparu’ch ffurflen yn ein hysbysu am eich digwyddiad, y gorau oll bydd ESAG yn gallu’ch cynghori.
Pethau sydd angen i chi eu hystyried:
- Cynllun gweithredu a fydd yn cynnwys cynllun o’r safle ac asesiad risg
- Cynllun argyfwng, iechyd a diogelwch, deddfwriaeth ac ymgyfreithiad
- Cau ffyrdd, arwyddion, effeithiau arbennig, ac ati.
- Diogelwch tân, stiwardio, darpariaeth feddygol, tai bach
- Mynediad anabl, strwythurau dros dro
- Mynediad i gerbydau brys, parcio ceir
- Systemau sain / PA, bwyd a diod
- Gwaredu ar sbwriel
- Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
- Trwydded lleoliad neu Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN)
- Eraill fel bo’n briodol (yn dibynnu ar fath y digwyddiad).
Faint o rybudd sydd angen ar y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau?
Y mwyaf o rybudd a dderbyniwn, y mwyaf o amser sydd gan gynllunwyr i drefnu’n effeithiol, yn enwedig os yw’r digwyddiad ar raddfa eang neu angen trwyddedau a/neu gau ffyrdd. Yn ddelfrydol, rydym angen ffurflen yn hysbysu am ddigwyddiad o leiaf 3 mis cyn mae’r digwyddiad i fod i ddigwydd.
Mae fel arfer yn cymryd hyd at 6 mis i drefnu digwyddiad bach a hyd at 12 mis am ddigwyddiad mwy.
Cyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau
Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd, ond gellir cynnal cyfarfodydd arbennig i drafod digwyddiadau mawr.
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Tîm Trefniadau Dinesig Wrth Gefn
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad e-bost: event.safety@blaenau-gwent.gov.uk