Heddiw, mae Cyngor Âé¶¹ÊÓÆµ wedi cymeradwyo ei gyllideb sy'n parhau i warchod gwasanaethau allweddol, cefnogi trigolion agored i niwed, a chadw'r cynnydd yn y Dreth Gyngor mor isel â phosibl ar 3.75%.
Gyda gwaith adeiladol rhwng aelodau'r grwpiau Llafur ac Annibynnol, mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn is nag a gynlluniwyd yn wreiddiol, gan ddangos ymrwymiad a rennir gan arweinwyr gwleidyddol i leihau'r effaith ar aelwydydd ym Mlaenau Gwent. Mae setliad cyllido gwell gan Lywodraeth Cymru, ynghyd ag amrywiaeth o effeithlonrwydd, yn golygu bod y gyllideb yn parhau i warchod a buddsoddi yn y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl leol. Bydd y gyllideb refeniw, ochr yn ochr â'r rhaglen gyfalaf, yn darparu mwy o fuddsoddiad ar gyfer ysgolion, gwasanaethau amgylcheddol, a phriffyrdd, gan gynnal cefnogaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Steve Thomas:
“Rwy’n falch bod y Cyngor Llawn wedi cymeradwyo cyllideb deg a chyfrifol sy’n gwarchod gwasanaethau allweddol ac yn adlewyrchu’r hyn a ddywedodd trigolion wrthym oedd yn bwysig.
“Mae’r cynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor yn sylweddol is na’n rhagdybiaeth gynllunio ac mae’n debygol o fod yn un o’r cynnydd isaf yng Nghymru. Mae wedi’i gyflawni trwy gyllid gwell, rheolaeth ariannol ofalus, ac ymrwymiad i gadw unrhyw gynnydd mor isel â phosibl mewn hinsawdd heriol iawn.â€
Dywedodd Arweinydd y Grŵp Annibynnol, y Cynghorydd Wayne Hodgins:
“Mae'r gyllideb hon yn dangos beth y gellir ei gyflawni trwy gydweithredu gwirioneddol, a rhoi pobl o flaen gwleidyddiaeth. Mae’r gyllideb yn cynnal y gwasanaethau y mae trigolion yn dibynnu arnynt fwyaf, yn cynyddu buddsoddiad mewn ysgolion a phriffyrdd, ac yn darparu cefnogaeth ystyrlon i’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol drwy’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.â€
Mae uchafbwyntiau'r gyllideb yn cynnwys:
- Diogelu gwasanaethau rheng flaen, heb unrhyw doriadau i wasanaethau
- £3 miliwn mewn effeithlonrwydd a gyflawnwyd drwy'r rhaglen Pontio'r Bwlch a chydweithio â Chyngor Torfaen
- Cynnydd o 10% mewn cyllid ysgolion
- £11 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau y Dreth Gyngor i gefnogi'r aelwydydd mwyaf mewn angen
- Cynnydd yn y Dreth Gyngor sy'n cyfateb i 97c yr wythnos ar gyfer eiddo Band A a £1.13 yr wythnos ar gyfer Band B - y bandiau eiddo mwyaf cyffredin yn y fwrdeistref
Gweld sut mae mwyafrif y Gyllideb yn cael ei buddsoddi:

I weld yr adroddiad i’r Cyngor Llawn cliciwch